Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddyfrffyrdd
Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol
Ionawr 2014
Adroddiad Blynyddol
Yng nghyfarfod rhif 35 y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddyfrffyrdd, a gynhaliwyd yn Nhŷ Hywel ddydd Mercher 4 Rhagfyr 2013, cynhaliodd y grŵp ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf o dan reolau newydd y Cynulliad Cenedlaethol ar weithrediad Grwpiau Trawsbleidiol.
Aelodau ac Ysgrifenyddiaeth
O fis Rhagfyr 2013, mae’r aelodau a’r ysgrifenyddiaeth fel a ganlyn:
Aelodau
· Nick Ramsay AC (Cadeirydd)
· Julie James AC
· Llyr Gruffydd AC
· William Powell AC
Ysgrifennydd
· Glandŵr Cymru - yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru (Matt Francis ar hyn o bryd)
Cyfarfodydd yn ystod y 12 mis diwethaf
Yn ystod 2013 cynhaliodd y grŵp gyfanswm o dri chyfarfod.
Dyddiad y cyfarfod: |
Aelodau’r Cynulliad a oedd yn bresennol |
Y pynciau a drafodwyd |
Siaradwyr allanol |
24/4/2013 |
Russell George AC Mark Isherwood AC Mike Hedges AC William Graham AC Aled Roberts AC
|
Dyfrffyrdd a thwristiaeth yng Nghymru |
Dan Clayton-Jones (Cadeirydd, Panel y Sector Twristiaeth)
Julie Lewis, Hazel Bowen (Cyngor Sir Powys)
|
9/10/2013 |
Nick Ramsay AC Mohammad Asghar AC Russell George AC Byron Davies AC William Graham AC Mark Isherwood AC |
Dyfrffyrdd ac ecosystemau |
James Byrne, (Ymddiriedolaethau Natur Cymru)
Cyflwyniad gan Cat Griffiths Williams (Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig) |
4/12/2013 |
Nick Ramsay AC Julie James AC Russell George AC Antoinette Sandbach AC |
‘Beyond the Towpath’: Prosbectws deng mlynedd Glandŵr Cymru |
Andrew Stumpf a Dr Mark Lang (Glandŵr Cymru) |
Mae’r Grŵp Trawsbleidiol yn cynnal cyfarfodydd agored; darperir rhestr lawn o bawb sy’n bresennol ym mhob cyfarfod fel rhan o’r cofnodion, sydd ar gael ar y dudalen berthnasol ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn ystod 2013, darparwyd gwasanaethau ysgrifenyddol i’r Grŵp gan gynrychiolwyr o gwmni materion cyhoeddus Grayling, ar ran Glandŵr Cymru.
Datganiad Ariannol
Yn ystod 2013, darparwyd lluniaeth (te, coffi, dŵr a chacennau cri) gwerth cyfanswm o £205.20 gan Glandŵr Cymru ar gyfer y tri chyfarfod.